Sut ydw i’n diweddaru manylion personol?
Gan ddibynnu ar eich meddygfa yn galluogi’r nodwedd, gallwch ddiweddaru’r manylion personol canlynol sydd gan eich meddygfa, trwy Fy Iechyd Ar-lein.
Dewiswch Fy Nghyfrif i ddangos manylion ac opsiynau:
Dewiswch o’r opsiynau canlynol, diweddarwch fel y bo’r angen, yna dewiswch Diweddaru.
- Newid Manylion Personol i ddiweddaru Enw Cyntaf a Cyfenw sy’n ymddangos yn Fy Iechyd Ar-lein. Sylwer – Ni chaiff y manylion hyn eu diweddaru yn eich meddygfa. Cysylltwch â’ch meddygfa yn uniongyrchol i ddiweddaru’r manylion sydd ganddynt.
- Dewiswch Newid Cyfeiriad E-bost i ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost. Rhowch eich cyfeiriad e-bost newydd, bydd angen i chi ei gadarnhau ac yna rhoi eich cyfrinair Fy Iechyd Ar-lein. Cliciwch ar y ddolen i ddiweddaru’r cyfeiriad e-bost sydd gan eich meddygfa.
- Dewiswch Newid Rhifau Cyswllt i ddiweddaru rhifau ffôn sydd gan eich meddygfa.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.